Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Mehefin 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15146
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2 a 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 5 a 9 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5, 7 ac 8 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Atebwyd cwestiynau 2, 3, 4 a 6 gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a
Gogledd Cymru
Heledd
Fychan (Canol De Cymru):Pa
drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â
Llywodraeth y DU ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at
ailddosbarthu rhaglen rheilffordd y dwyrain a’r gorllewin
rhwng Rhydychen a Chaergrawnt o fod yn brosiect 'Lloegr yn unig' i
fod yn brosiect 'Cymru a Lloegr'?
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl babanod 2025 (9 tan 15 Mehefin).
Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am – PONT: 20 mlynedd o bartneriaeth dramor (2025).
Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad am - Mis Pride (Mehefin).
Gwnaeth Vaughan Gething ddatganiad am - Billy Boston yn cael ei urddo’n farchog.
Dechreuodd yr eitem am 15.36
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
NDM8922 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei sefydlu ar 12 Gorffennaf 2023 at ddiben craffu ar y Biliau yn ymwneud â diwygio'r Senedd a gyfeiriwyd ato gan y Pwyllgor Busnes.
2. Yn nodi nad yw'r Pwyllgor Busnes yn bwriadu cyfeirio rhagor o faterion at y Pwyllgor.
3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Biliau Diwygio ddod i ben.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM8924 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cafodd Pwyllgor Senedd y Dyfodol ei sefydlu ar 16 Hydref 2024 i ystyried a chyflwyno adroddiadau erbyn 9 Mai 2025 ar: trefniadaeth busnes yn y Seithfed Senedd; rhwystrau i gyfranogiad cynrychiolwyr; a’r trothwyon a nodir yn y Rheolau Sefydlog.
2. Yn nodi bod y Pwyllgor wedi gosod ei adroddiadau ar 28 Chwefror 2025 a 9 Mai 2025.
3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai Pwyllgor Senedd y Dyfodol ddod i ben.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM8918 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd' a osodwyd ar 6 Mawrth 2025.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.33
NDM8919 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Werdd, a osodwyd ar 14 Mawrth 2025.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8917 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol;
b) cynnal adolygiad o botensial ynni solar yng Nghymru; ac
c) datblygu strategaeth solar ar gyfer Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
10 |
23 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i gydweithio â datblygwyr
ar gyfer prosiectau solar fel y bo angen, a hynny er mwyn sicrhau
eu bod yn deall y polisïau cynllunio cadarn sydd mewn grym yng
Nghymru; a
b) parhau i fynd i’r afael
â’r gwaith ar y cynnig i’r sector ynni
adnewyddadwy, a fydd yn cynnwys technolegau solar, gan barhau
â gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wynt ar y
Môr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8923 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi casgliadau ei hadolygiad o wariant ar 11 Mehefin.
2. Yn gresynu bod penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno bil tegwch economaidd sydd:
a) yn sicrhau cyllid teg i Gymru;
b) yn datganoli pwerau i greu bandiau treth incwm newydd; ac
c) yn cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn unol â chwyddiant.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, ymrwymo i’r £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2 a datganoli pwerau a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru;
b) adfer y taliad tanwydd gaeaf fel darpariaeth gyffredinol a chael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn yn ddi-oed;
c) ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn am effaith codiadau yswiriant gwladol cyflogwyr; a
d) cyflwyno treth ar gyfoeth, gan sicrhau bod y baich ar yr unigolion a’r corfforaethau sy'n gallu ysgwyddo cyfran decach o’r dreth gyffredinol a delir.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
35 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i Adolygiad Gwariant
Llywodraeth y DU, gan nodi'r goblygiadau i Gymru, ar ôl iddi
ddadansoddi'r goblygiadau hynny, yn dilyn cyhoeddiadau ar 11
Mehefin.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi cyflwyno lwfans Tanwydd Gaeaf Cymru;
b) gwario codiad llawn Barnett ar gyfer iechyd, ar
iechyd;
c) pwyso ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd yng nghyfraniadau
yswiriant gwladol cyflogwyr;
d) pwyso ymhellach ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r dreth ffermydd
teuluol; ac
e) cadarnhau y bydd symiau canlyniadol sy'n deillio o wariant HS2
yn cael eu gwario ar brosiectau Cymru yn unig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.55
Daeth y cyfarfod i ben am 19.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2025